Coetir Anian
Contact: Nia Huw
Unit 6F, Cefn Llan Science Park,
Aberystwyth SY23 3AH
https://twitter.com/coetiranian
Coetir Anian
Adfer cynefinoedd a rhywogaethau, cysylltu pobl â bywyd gwyllt a lleoedd gwyllt.
Lleolir Coetir Anian ar ein safle ucheldir o 350 erw, Bwlch Corog. Yma rydym yn cynnal amrywiaeth o raglenni i ddatblygu partneriaethau, gwella cynefinoedd a chysylltu pobl â byd natur.
Rydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn adfer ecosystemau yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r prosiect yn adfer cynefinoedd ac yn creu'r amodau er mwyn i fwy o amrywiaeth o fywyd gwyllt ffynnu. Mae mawndir yn cael ei adfer yn orgors a gweundir yr ucheldir. Mae gorchudd coed yn cynyddu i ail-greu ehangder o goedwig brodorol a phorfeydd coediog ac mae bywyd gwyllt yn dychwelyd.
Mae cysylltu pobl â bywyd gwyllt a mannau gwyllt yn bwysig iawn i ni. Yng Nghoetir Anian rydym yn cynnal rhaglenni ar gyfer ysgolion cynradd lleol ac ysgolion uwchradd, yn ogystal â gweithgareddau penwythnos a gwyliau i bobl ifanc lleol. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, o goginio ar dân y gwersyll i gerfio llwyau ac o gerdded yr afon i ddysgu am gynefinoedd Bwlch Corog. Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni i oedolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Ochr yn ochr â hyn oll, rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli misol, gan groesawu pobl o bell ac agos i helpu gydag amrywiaeth o dasgau cadwraeth.
Fel adnodd cymunedol, mae'r safle ar gael am ddim ar gyfer mwynhad tawel megis cerdded a gwersylla, gan gadw at yr egwyddor o adael dim olion.
Tagiau Tudalennau
Ychwanegu rhestr Digwyddiad
Rheolwch Dudalen eich Arweinlyfr Gwyrdd
Grwpiau Amgylcheddol Cymunedol ym Mhowys
Defnyddiwch yr eicon hwn ar y chwith uchaf i ddangos y rhestr o enwau
Grwpiau Cymunedol
Busnes Gwyrdd
Digwyddiadau