Gwenoliaid Duon Llanidloes Swifts
Rydym yn grŵp gwirfoddol sy'n ceisio helpu i gefnogi cadwraeth gwenoliaid duon yn ein tref, sef Llanidloes, Powys a'r ardal ehangach.
Mae bron i 60% o boblogaeth y gwenoliaid duon wedi diflannu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, o ganlyniad mae'r wennol ddu wedi dod yn rhywogaeth 'rhestr goch' sy'n golygu ei bod mewn angen dybryd am ein help. Mae angen i ni greu cynefin mwy bioamrywiol a darparu cyfleoedd nythu i helpu ein nythfeydd lleol a'r boblogaeth o wenoliaid duon yn ei chyfanrwydd nid yn unig i oroesi ond i ffynnu.
Nod ein grŵp yw gweithio gyda'r gymuned leol i:
1. Codi ymwybyddiaeth a hybu diddordeb mewn gwenoliaid duon
2. Monitro a chofnodi gwenoliaid duon
3. Hyrwyddo datblygiad cyfleoedd nythu
Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth, eisiau gwirfoddoli, neu os gallwch gynnig cymorth arall.
Tagiau Tudalennau
Ychwanegu rhestr Digwyddiad
Rheolwch Dudalen eich Arweinlyfr Gwyrdd
Grwpiau Amgylcheddol Cymunedol ym Mhowys
Defnyddiwch yr eicon hwn ar y chwith uchaf i ddangos y rhestr o enwau
Grwpiau Cymunedol
Busnes Gwyrdd
Digwyddiadau